Episodes

  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi a Chriced
    Oct 31 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Lauren Salter, Billy McBryde a Geraint Cynan, yn trafod dyfodol y rhanbarthau rygbi yng Nghymru, Cyfres yr Hydref, Stori drasig y chwaraewr criced ifanc 17 mlwydd oed o Awstralia Ben Austin; a chapten criced Awstralia Pat Cummins allan am y prawf cyntaf, a faint o help fydd hynny i obeithion Lloegr yng Nghyfres y Lludw?

    Show More Show Less
    15 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Rygbi, Tenis, Gymnasteg a Seiclo
    Oct 27 2025

    Catrin Heledd a'r panelwyr Gwennan Harries, Steffan Leonard a Dyfed Cynan sy'n trafod cyfraniad Jess Fishlock i bêl-droed merched yng Nghymru, gem gynta Tom Lockyer yn dilyn ataliad ar y galon, beth sydd angen newid o fewn Undeb Rygbi Cymru er mwyn sicrhau canlyniadau i'r tîm cenedlaethol, llwyddiant Mimi Xu ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Wrecsam, medal arian i Ruby Evans ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd a medalau ym myd seiclo i Josh Tarling, Emma Finucane ac Emma Morris ym Mhencampwriaethau Trac y Byd.

    Show More Show Less
    15 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi; Pêl-droed; a Syrffio
    Oct 24 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Catrin Heledd, Mei Emrys a'r gohebydd Dafydd Pritchard yn trafod dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru yn dilyn cyhoeddiad ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru; Gobeithion Cymru yng Nghyfres yr Hydref?; Gêm olaf Jess Fishlock i Gymru yn erbyn Awstralia, a'i brawd James sydd wedi'w benodi'n reolwr ar dîm merched Y Bari; A hanes y syrffrwraig Yolanda Hopkins, sydd yn hanner Cymraes, ac wedi cael llwyddiant yn ddiweddar.

    Show More Show Less
    15 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Ralio; Rygbi; Pêl-droed; Marathon; a Sumo
    Oct 20 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Gabriella Jukes, Gruff McKee a'r gohebydd Dafydd Pritchard yn trafod ymgyrch Elfyn Evans ym Mhencampwriaeth Rali y Byd; Dewisiadau Steve Tandy, hyfforddwr Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref; Gêm nesaf menywod Cymru yn erbyn Awstralia, a diwedd cyfnod i Jess Fishlock; Ysgaru drwy farathon yn ffenomenon; Y Grand Sumo sydd wedi bod yn Llundain, a'r enillydd Hoshoryu yn cael potel fawr o soy sauce fel gwobr, felly tlysau, neu wobrau, annarferol mewn chwaraeon?

    Show More Show Less
    14 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Seiclo, Dartiau a Ralio
    Oct 17 2025

    Dewi Llwyd a'r panelwyr Hana Medi, Owen Jenkins a Carl Roberts sy'n trafod canlyniad Cymru yn erbyn Gwlad Belg ac ymddangosiad llygoden fawr ar y cae, sylw i'r cyfreithiwr deugain oed o Gaerfaddon nath guro pencampwr y byd a’r Tour de France Tadej Pogacar mewn ras ddringo allt yn ei dref enedigol yn Slofenia, ralio wrth i Elfyn Evans gystadlu yn Rali Canol Ewrop a llwyddiant Beau Graves ym myd y dartiau wrth iddi guro Luke Littler.

    Show More Show Less
    16 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Pel-droed, Rygbi, Dartiau, Seiclo ac enillwyr annisgwyl
    Oct 13 2025

    Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Anwen Jones, Nic Parry ac Ian Mitchelmore sy'n trafod gem Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Rowniadau rhagbrofol Cwpan y Byd, hynt a helynt Jonny Clayton a Gerwyn Price yng nghystadleuaeth Grand Prix Dartiau'r Byd, hunangofiant Geraint Thomas a'r bwyd ma athletwyr yn ei aberthu, ac enillwyr annisgwyl.

    Show More Show Less
    17 mins
  • Pel-droed, Dartiau, Rygbi a Tennis
    Oct 10 2025

    Ymunwch gyda Alun Thomas a'r panelwyr Lowri Roberts, Dewi Williams a Dafydd Jones sy'n trafod y golled yn erbyn Lloegr, y disgwyliadau o berffeithrwydd sydd gan swyddogion mewn gemau, llwyddiant Jonny Clayton a Gerwyn Price yng nghystadleuaeth Grand Prix Dartiau'r Byd a'r gyfrinach sy'n caniatau i Djokovic barhau i chwarae tennis a fyntau'n 38 mlwydd oed.

    Show More Show Less
    15 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed; Ralio; Rygbi ac Athletau
    Oct 6 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Rhiannon Sim, Dyfed Cynan a'r gohebydd Dylan Griffiths yn trafod gemau nesaf tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg; Ail i Ioan Lloyd a'i gyd-yrrwr Sion Williams ym Mhencampwriaeth Rali Iau Ewrop; Gemau'r Pencampwriaeth Rygbi Unedig; Anaf i Louis Rees-Zammit a phwy gaiff eu dewis yng ngemau prawf Cyfres yr Hydref; Campau yn esblygu er mwyn denu mwy o gefnogwyr ifanc; Posteri, baneri a sloganau chwaraeon sy'n aros yn y cof.

    Show More Show Less
    15 mins