Episodes

  • 56 - Nadolig Llawen!
    Dec 25 2025

    Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho!

    Show More Show Less
    1 hr and 9 mins
  • 55 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw
    Dec 18 2025

    Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando!

    Show More Show Less
    1 hr and 20 mins
  • 54 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu
    Nov 27 2025

    O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.

    Show More Show Less
    1 hr and 39 mins
  • 53 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig
    Nov 20 2025

    Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!

    Show More Show Less
    1 hr and 38 mins
  • 52 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani
    Nov 13 2025

    Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!

    Show More Show Less
    1 hr and 36 mins
  • 51 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor
    Nov 6 2025

    Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!

    Show More Show Less
    1 hr and 40 mins
  • 50 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost
    Oct 30 2025

    Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!

    Show More Show Less
    1 hr and 47 mins
  • 49 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre
    Oct 23 2025

    Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.

    Show More Show Less
    1 hr and 34 mins